Wales

Wales image #1

Cyfnewid Cynaliadwyedd – Cefnogi Cymru

Er i’r Gyfnewidfa Cynaliadwyedd gael ei greu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (CCAULl)  yn wreiddiol, mae llawer o wybodaeth ar gael ar y porth hwn ar gyfer pobol sy’n gweithio ar gynaliadwyedd yng Nghymru pu’n ai’n addysg uwch neu’n addysg bellach.

Mae’n safle ar gyfer cydweithwyr mewn gwahanol sefydliadau gael rhannu eu profiadau cynaliadwyedd drwy  gyflenwad newyddion bywiog, dyddiadur digwyddiadau, canllawiau arfer dda, canllawiau cryno, adroddiadau, ymchwil, webinarau a fideos.

Mae’r ACPC wedi ymrywmo i yrru’r porth  gwybodaeth arloesol hwn ymlaen – gan ei wneud yn berthnasol i’r heriau sy’n cael eu hwynebu gan staff mewn sefydliadau ble bynnag y bont yn y wlad.

Gan fod addysg a’r amgylchedd wedi eu datganoli yng Nghymru, mae Prifysgolion a Cholegau mewn sefyllfa unigryw gyda disgwyliadau gwahanol arnynt o’i gymharu â gweddill y DU. Er mwyn rhoi cymorth iddynt ac er mwyn cefnogi addysg drydyddol yng Nghymru, rydym yn gobeithio creu Partneriaid Cyfnewidfa Cynaliadwyedd Cymreig newydd er mwyn darparu adnoddau a chanllawiau rydych eu hangen.

Mae’r perthnasau newydd a chyffrous hyn wedi’u llunio er mwyn gosod cynaliadwyedd ar y blaen o ran addysg drydyddol yng Nghymru, ac er mwyn darparu’r offer i sefydliadau a’u staff allu gwireddu hyn. Er bod llawer o adnoddau penodol Cymreig ar gael ar y Gyfnewidfa Cynaliadwyedd, carem weld mwy ohonynt.

Dyna pam y byddwn yn parhau i weithio’n galed i hybu cynaliadwyedd o fewn addysg drydyddol dros Gymru gyfan  a pham rydym yn cynyddu ein partneriaethau ac adnoddau drwy’r amser.

There are 535 resources provided by Wales

Displaying 501–535 of 535 results | View 20 50 100 per page